1. Mae’r Senedd wedi sefydlu’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch (“y Pwyllgor”) i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar iechyd corfforol, iechyd meddwl ac iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.
2. Mae'r ddogfen hon yn nodi ein dull gweithredu strategol mewn perthynas â’n gwaith yn y Chweched Senedd.
3. Fe wnaethom ni gynnal ystod o weithgareddau i lywio datblygiad ein dull gweithredu strategol ar gyfer y Chweched Senedd:
§ Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021, fe wnaethom ni ymgynghori â rhanddeiliaid a'r cyhoedd ar flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd.
§ Ar 23 Medi 2021, cawsom ddiweddariad ar y pandemig COVID-19 gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, y Prif Ymgynghorydd Gwyddonol dros Iechyd, a Chell Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, gan gynnal sesiwn graffu gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru â chyfrifoldeb am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
§ Ar 7 Hydref 2021, fe wnaethom ni gynnal trafodaeth breifat gydag academyddion ag arbenigedd mewn materion sy'n codi mewn perthynas ag adferiad COVID.
§ Ar 21 Hydref 2021, fe wnaethom ni gynnal sesiwn cynllunio strategol a hwyluswyd yn allanol.
4. Ein gweledigaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol dros y pum mlynedd nesaf yw:
§ Ailosod ar ôl COVID, sy'n arwain at:
§ Bawb yng Nghymru yn byw bywydau hirach ac iachach.
§ System iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio'n fwy effeithiol nag yr oedd cyn y pandemig.
§ Pobl yn defnyddio systemau iechyd a gofal gan wybod pa wasanaethau i'w cyrchu i ddiwallu eu hanghenion, a chael profiad mwy cadarnhaol.
5. Er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon, bydd angen:
§ Integreiddio gwell rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.
§ Cynnydd o ran diwygio gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwell cynaliadwyedd ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol.
§ Lefelau uwch o lythrennedd iechyd a chyfeirio rhwng gwasanaethau.
§ Gwell mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig i bobl ifanc a phobl sydd â'r anghenion mwyaf acíwt.
§ Cynnydd o ran mynd i'r afael â phrinder gweithlu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys datblygu'r gweithlu a gwasanaethau gofal sylfaenol fel bod pobl yn gallu cael mynediad at arbenigedd priodol yn agos at gartref.
§ Morâl uwch ar draws y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.
§ Gwell hunanreolaeth a hunanofal o gyflyrau cronig.
§ Gwell safonau ac arferion mewn perthynas ag iechyd menywod.
6. Ein rôl ni yw sbarduno newid drwy ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru a'r sector iechyd a gofal cymdeithasol.
7. Byddwn yn gwneud hyn drwy’r canlynol:
§ Cynnal ymdeimlad o ddiben cyffredin trawsbleidiol mewn perthynas â’r weledigaeth rydym yn ei rhannu, gan hefyd gydnabod a pharchu y bydd gan Aelodau safbwyntiau gwleidyddol gwahanol.
§ Cadw mater neu faterion blaenoriaeth ar agenda'r Llywodraeth, neu wthio mater neu faterion i fyny'r agenda, drwy ymchwiliadau, gwaith craffu cyffredinol, trafodaethau anffurfiol gyda'r Gweinidog, ceisio sesiynau briffio gan Lywodraeth Cymru, gohebiaeth, monitro sut mae argymhellion yn cael eu gweithredu, a chwestiynau neu gyfraniadau'r Aelodau eu hunain yn y Cyfarfod Llawn ac ati.
§ Adnabod rhwystrau i weithredu neu newid, a sut y gellir mynd i'r afael â rhwystrau o'r fath, a mynd ar drywydd gwaith i weld a aethpwyd i'r afael â'r rhwystrau. Gallai hyn hefyd gynnwys gwaith craffu mwy systematig ar ymatebion Llywodraeth Cymru, a mynd ar drywydd ymatebion nad ydynt yn ddigon clir, cadarn neu gynhwysfawr.
§ Cynllunio gwaith mewn digon o amser roi eglurder i randdeiliaid, golygu bod modd meithrin perthynas â phobl na fyddai eu lleisiau'n cael eu clywed fel arall, a gwneud y defnydd gorau o adnoddau ac amser, gan hefyd gadw digon o hyblygrwydd a chapasiti i'n galluogi i ymateb i faterion amserol neu faterion sy'n codi.
§ Rhoi amser o'r neilltu o bryd i'w gilydd i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed tuag at y weledigaeth gyffredinol, pa gyfraniad rydym wedi'i wneud, a pha gamau pellach y gallem eu cymryd i lywio cynnydd.
8. Bydd y themâu canlynol yn rhedeg drwy ein holl waith:
§
Rhoi pobl wrth galon iechyd a gofal Cymdeithasol
Er enghraifft, pwy mae polisïau neu benderfyniadau’n
effeithio arnynt; effeithiau gwahanol ar wahanol grwpiau neu
gymunedau; ffyrdd o gyfathrebu â phobl, ymgysylltu â
nhw, ymgynghori â nhw neu eu cynnwys.
§
Arloesi er mwyn gwella
Er enghraifft, alinio ag agenda trawsnewid Llywodraeth Cymru;
arloesi mewn prosesau, technoleg, offer, hyfforddiant ac agweddau;
rhwystrau; sylfaen dystiolaeth; gwerthuso, rhannu a chyflwyno;
cyllid; archwaeth risg a chydbwyso diogelwch ac arloesedd;
atebolrwydd ac uchelgais; ystwythder; alinio dyhead a
gweithredu.
§
Y gweithlu iechyd a gofal Cymdeithasol
Er enghraifft, capasiti; hyfforddi ac ailhyfforddi; ymgorffori
arloesedd wrth gynllunio a datblygu'r gweithlu; morâl a
llesiant staff.
§
Anghydraddoldebau ac annhegwch iechyd
Er enghraifft, y gwahaniaethau mewn canlyniadau iechyd a mynediad
at wasanaethau ar draws gwahanol grwpiau, cymunedau, grwpiau
economaidd-gymdeithasol neu ardaloedd daearyddol.
§
Ailosod ar ôl y pandemig
Er enghraifft, ystyried sut oedd pethau cyn y pandemig, sut y
gwnaeth y pandemig effeithio arnynt, a sut yr ydym am i'r sefyllfa
fod.
9. Rydym wedi nodi'r materion blaenoriaeth a ganlyn. Byddwn yn cadw golwg ar y rhestrau hyn drwy gydol y Senedd.
§ COVID: cadw golwg ar y pandemig, ac ailosod ar ôl COVID.
§ Y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys hyfforddiant; recriwtio; cadw; anghenion; lleoedd hyfforddi; diwylliant o arloesi a gwella; ac uwch arweinyddiaeth (er enghraifft drwy wrandawiadau cyn penodi neu sesiynau craffu).
§ Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros.
§ Llif cleifion drwy ysbytai, gan ganolbwyntio i ddechrau ar eu rhyddhau o'r ysbyty.
§ Iechyd meddwl.
§ Cynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a gofal Cymdeithasol.
§ Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.
§ Gofal sylfaenol, gan gynnwys ehangu dealltwriaeth o'r ystod o wasanaethau, cyfeirio, rhagfarn anymwybodol a llythrennedd iechyd.
§ Hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac atal problemau.
§ Iechyd menywod.
§ Gwasanaethau adsefydlu.
§ Mynediad at wasanaethau ar gyfer cyflyrau cronig hirdymor.
§ Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
§ Integreiddio ac ariannu gofal cymdeithasol.
§ Cefnogaeth a gwasanaethau i ofalwyr di-dâl.
§ Y pandemig, ac ailosod ar ôl COVID.
10. Rydym wedi cytuno y byddwn:
§ Yn meithrin cysylltiadau i hwyluso cydweithredu adeiladol a dylanwad.
§ Yn gwrando ar brofiad byw, gan gynnwys mynd ar ymweliadau pan fydd y sefyllfa iechyd y cyhoedd yn caniatáu.
§ Bod yn effro i’n cyfarfodydd ac yn hyblyg o ran amseroedd ein cyfarfodydd.
§ Cynnal cyfarfodydd hybrid fel mater o drefn.